Home Discussion North Wales Blogs Blog for Yogi

YN Y DECHREUAD

Posted by Dilwyn Morgan on September 12, 2007 10:00 AM | 

lejog%20001.jpg
WEl dyma fyi yn barod i gychwyn or diwedd. Wedi dreifio lawr or Bala dros nos a chael awren o gwsg mewn laybye rhyw 4 milltir o Lands End.
Roedd dydd Sadwrn cychwyn y daith yn ddigon a throi pen neb ac roeddwn i wedi mynd in gilydd i gyd erbyn diwedd fel ci yn methu cael ei weithio!!!
Dave a Harold wedi newid gerbocs y Camper yn bora ... Diolch ir ddau am ollwng bob dim ar fyr rybudd ( halen y ddaear hogia). Pobol yn galw yn y ty efo cacennau ac eli pen ol a bwyd a diod a phres... PAWB mor arbennig o ffeind ac yn barod i gyfrannu at achos Brei.
Roedd y siwrne i lawr wedi bod yn hynod hir ond roedd Nia wedi cymryd at y dreifio fel hen law ar yr HGVs a chawsom ni ond un stop am banad tua 3 or gloch y bore mewn services ar yr M5.

SEICLO DIWRNOD 1
Wedi penderfynnu mai yr A30 oedd hi i fod heddiw. Ffordd brysur brysur ond roeddwn yn awyddus i wneud 100 milltir ar y diwrnod cyntaf ac felly dim amser i ffwffian fo lonydd bach prydferth Cernyw.
Roedd Catrin a dyn Camera yn fy nilyn heddiw trwy'r dydd felly roedd gen i gwmni am y rhan fwyaf or amser. Cychwyn yn dalog or maes parcio yn Lands end a dyna ni y " cock up" cynta. Cymryd y troiad anghywir a dead end. Troi nol a cychwyn eto ( Boi y maes parcio yn gwneud yn ei glos yn chwerthin gymaint!!!)
Diwrnod o ganolbwyntio ar stripyn 2 droedfedd o darmac gyda miloedd o gerbydau yn llawn o deuluoedd blin ar ei ffordd adra i rwla. Loriau a bysiau am y gorau i roi pass am ddim imi ar ei wing mirrors. Yr unig beth oedd yn cadw fi fynd oedd gweld y Camper bob hyn a hyn a Nia wedi gwneud panad a tamed o dorth frith Olwen Ty Cerrig i gadw y boiler fynd.
Diwrnod hir o seiclo a chyrraedd y safle gwersylla yn Okehampton am 7 yr hwyr. Blinedig ac ychydig bach yn boenus am sut fyddai pethau y diwrnod canlynol.
Milltiroedd 105
Problemau mwyaf.... Traffic.... Gwres.... blinder


 

Comments (0)

Post a comment

(If you haven't left a comment here before, you may need to be approved by the site owner before your comment will appear. Until then, it won't appear on the entry. Thanks for waiting.)

Search this blog

April 2008
Sun Mon Tue Wed Thu Fri Sat
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30      
 

Older posts are in the Archives

  



Profile


1388900.jpg 1388900.jpg

Dilwyn Morgan is going to cycle from Land’s End to John O’Groats raising money for Yogi (Bryan Davies) by sponsorship or any other means!!! He is trying to raise awareness of Yogi's serious back injuries injuries that he suffered whilst playing for Bala Rugby Club earlier this year.

Categories

Tag cloud...