Dydd Iau Awst 23 bydd na gyfle i chi ddod draw i Ger y Llyn , Heol Tegid i gael sgwrs a phaned. Bydd cyfle hefyd i chi noddi y daith beics yn ariannol neu unrhyw rodd addas ar gyfer y siwrne.Bydd Croeso cynnes i bawb rhwng 10.00 a 4 y pnawn. Mae croeso i chi unrhyw adeg arall ond bydd y ginger nuts ar gypsy creams di mynd rol 4!!!
Y mae y trefniadau yn mynd yn ei blaen yn dda er fod yr ymarfer dipyn bach yn boenus ar hen goesau yn gweigian weithiau.Byddaf yn postio fy amserlen ar y safle yma tros y diwrnodiau nesa. Oes oes gennych unrhyw gysylltiad a rhywun ar y daith neu unrhyw wybodaeth berthnasol yna byddwn yn falch o glywed gennych
DIWRNOD 1
Lands End i Okehampton ar hyd yr A30. Pellter 105 milltir.
Ffordd hynod brysur ond gallaf wneud amser da yn ol y son. Amcangyfrif o 8 awr o seiclo
