Home Discussion North Wales Blogs Blog for Yogi

August 2007 Archives

August 21, 2007

Adeundum quo nemo ante iit .

Wel mae'r amser yn brysur nesu. Amserlen rwan fatha trons maint xxsmall ( braidd yn dyn).
Dydd Gwener mynd i nol y motorhome gan Mr a Mrs Eddie Jones Benllech a wedyn drwy dydd Sadwrn i bacio y beic a bwyd a plastars a fasalin etc. Cychwyn am Lands End tua 10 nos Sadwrn felly os byddwch ar y Stryd yn Bala codwch law. Dim mod in awgrymu o gwbwl fod na ferched ar y stryd yn Bala am 10 y nos !!!!!!!!!!!!!!!!
Criw Ffilmio yn fy ngyfarfod am 10 yn Lands End a wedyn cychwyn seiclo. Gobeithio gallu gwneud 100 milltir i Okehampton erbyn nos.
COFIWCH AM Y DIWRNOD AGORED YN GERYLLYN DYDD IAU YMA 10.00 tan 16.00
CYFLE I GYFRANNU AT APRL YOGI

Cofn dich Lladin chi ddim yn dda>>>>>>>>>>>>>>>>
To boldly go where no man has gone before


 

August 14, 2007

PG TIPS a GYPSY CREAM

Dydd Iau Awst 23 bydd na gyfle i chi ddod draw i Ger y Llyn , Heol Tegid i gael sgwrs a phaned. Bydd cyfle hefyd i chi noddi y daith beics yn ariannol neu unrhyw rodd addas ar gyfer y siwrne.Bydd Croeso cynnes i bawb rhwng 10.00 a 4 y pnawn. Mae croeso i chi unrhyw adeg arall ond bydd y ginger nuts ar gypsy creams di mynd rol 4!!!
Y mae y trefniadau yn mynd yn ei blaen yn dda er fod yr ymarfer dipyn bach yn boenus ar hen goesau yn gweigian weithiau.Byddaf yn postio fy amserlen ar y safle yma tros y diwrnodiau nesa. Oes oes gennych unrhyw gysylltiad a rhywun ar y daith neu unrhyw wybodaeth berthnasol yna byddwn yn falch o glywed gennych
DIWRNOD 1
Lands End i Okehampton ar hyd yr A30. Pellter 105 milltir.
Ffordd hynod brysur ond gallaf wneud amser da yn ol y son. Amcangyfrif o 8 awr o seiclo


 

August 2, 2007

Bannana a Flat Wheel(s)

Methu cael amser i wneud digon o ymarfer ar hyn o bryd felly wedi penderfynnu rhaid i mi dorri lawr ar bethau fel gwaith etc. Dwi dal fwyta bannanas a ffrwytha fel mwnci yn sw Gaer ond dim pwysa weld yn mynd. Oes gan rhywun syniadau!!!
Ac os gai un pynctiar eto tros y penwythnos ma mi droiai yn septic Aaaaagh .
Dwi ar ol pawb am bres wan felly look out!!!! Peint neu ddau yn llai ar nos sadwrn a £25 i yogi? fyddwch chin teimlo yn well dydd Sul.


 

Search this blog

April 2008
Sun Mon Tue Wed Thu Fri Sat
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30      
 

Older posts are in the Archives

  



Profile


1388900.jpg 1388900.jpg

Dilwyn Morgan is going to cycle from Land’s End to John O’Groats raising money for Yogi (Bryan Davies) by sponsorship or any other means!!! He is trying to raise awareness of Yogi's serious back injuries injuries that he suffered whilst playing for Bala Rugby Club earlier this year.

Categories

Tag cloud...