![]()
Ddim wedi seiclo llawer penwythnos yma. Meddwl mod i di gor wneud diwedd yr wythnos ma. Stiff fel collar person heddiw. Yn ol yr hits sydd yn digwydd ar y blog yma ar un Saesneg http://www.dilwyn-lejog4yog.blogspot.com/ y mae na bobol or USA, Israel, Arianin a Ffrainc yn edrych arnynt. O ia ac un o Corris ( lower). BEWARE mae'r ffurfleni noddi o gwmpas.
Wel tydi'r diet ddim yn gweithio!!! Dwi bwyta mwy o ffrwytha na Mwnci ar Graig Gibraltar ond dwi dal i fethu colli pwys. ( Dwi deall rwan sut mai pen ola nhw mor goch !!!)
Dwi di trio bob dim o cabbage soup ( Ych) i Felon Dwr ( Oes na rhywun yn gwybod os da chi fod i fwyta'r hadau???)
Y seiclo mynd reit dda. Gwneud rhyw 150 milltir dros y penwythnos a trio gwneud 2 waith o amgylch Llyn Tegid bob Nos. Dwi pasio garej Llanuwchllyn mor amal mae Huw wedi stopio codi llaw arnai!!!http://www.dilwyn-lejog4yog.blogspot.com
Di cael cwynion fod fy llun ar y Blog saesneg yn ddigon a dychryn neb felly rhaid imi chwilio am un arall!!!!

Wel ymarfer di bob dim dyddiau yma. Ambell un yn deud y cai drafferth gwneud y daith mewn 10 diwrnod felly dwi benderfynnol fel mul iw profi yn anghywir. Y tywydd tamp ma ddim yn help. Sgennai ddim "mudguards" ar y beic felly mae yr olwyn ol yn taflu dwr y ffordd i gyd syth fyny!!! Gellwch feddwl i lle siawns? Y man lle nad yw'r haul byth yn tywynnu. Sion cemist yn dweud fod gennai y peth tebyca i " Trench Foot". Y clefyd roedd hogia rhyfel byd cyntaf yn gael wedi bod yn sefyll mewn dwr yn y trenches am wythnosau. Yr unig beth dwi di gael o mewn lle mwy tendar. SEUDOCREAM meddai Sion " os dio mendio nappy rash mi fendith rwbath. Gawn ni weld ia...
Fel arall trio colli dipyn o bwysau er mwyn gwneud rhiwiau Cornwall yn haws... Ffrwythau ffrwythau a Fish!!!! Dwi bwyta gymaint o bysgod nes mae fy mol i mynd mewn ac allan fo llanw ( 3 awr ar ol High Water Lerpwl!!)
Mae'r ffurfleni noddi yn barod felly os oes rhywun yn y byd eisiau rhoi unrhyw gyfraniad at Apel Yogi yna plis cysylltwch. Cofiwch am eich cyfeiriad achos dwi am gadw rhestr fel fod Bri ar teulu yn cael gweld o ble mae'r arian yn dod.
| Sun | Mon | Tue | Wed | Thu | Fri | Sat |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | ||
| 6 | 7 | 8 | 9 | 10 | 11 | 12 |
| 13 | 14 | 15 | 16 | 17 | 18 | 19 |
| 20 | 21 | 22 | 23 | 24 | 25 | 26 |
| 27 | 28 | 29 | 30 |
Dilwyn Morgan is going to cycle from Land’s End to John O’Groats raising money for Yogi (Bryan Davies) by sponsorship or any other means!!! He is trying to raise awareness of Yogi's serious back injuries injuries that he suffered whilst playing for Bala Rugby Club earlier this year.
" Dwi wedi darllen y cyfarwyddiadau ar gefn paced..."
"How he got the name 'Yogi'! At 11 years of age, Br..."
"Dilwyn I will gladly donate a bottle of whisky for..."